Tra bod Lloegr wedi gohirio ryddhau’r cyfyngiadau “lockdown” ymhellach, a chyfyngiadau pellach wedi eu gorchymyn ar ardal sylweddol o Gogledd-Orllewin Lloegr, mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS wedi galw ar Prif Weinidog Cymru i ddilyn esiampl yr Alban, ac i gyfyngu teithio ddi-angen rhwng Cymru a’r lleoliadau yn Lloegr sydd wedi eu taro’n arw gan COVID.
Pan fo’r “lockdown” lleol yn cael eu sefydlu heb unrhyw cyfyngiadau ar deithio, mae’n golygu fod trigolion yn medru teithio tu hwnt ir ardal i fod yn rhydd o’r rheolau hynny. Fyddai cyfyngu unrhyw deithio ddi-angen rhwg Cymru a’r ardaloedd o Loegr sydd o dan reholau “lockdown”, gan gynnwys ardal Manceinion, yn sicrhau clirder i bawb ac yn cynyddu diogelwch cyhoeddus.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS:
“Mae hyn yn fater o ddiogelwch ein ymwelwyr ac ein cymunedau lleol. Mae’r cyfyngiadau sydd wedi eu gosod yng ngogledd-orllewin Lloegr yn ceisio arafu trosglwyddiad y feirws yno, ond mae nifer o’r 4 miliwn sydd o dan y cyfyngiadau yma yn teithio’n reolaidd i Gogledd Cymru am waith neu gwyliau.”
“Mae’r rheolau yng Nghymru nawr wedi eu llacio fwy na sawl lleoliad yn Lloegr. Heb rhoi cyfyngiadau ar deithio ddi-angen rhwng y ddau ardal, mae risg ein bod yn dadwneud yr holl waith da i leihau’r nifer o achosion yn y ddau wlad. Mae’r esiampl mae Llywodraeth yr Alban wedi gosod yn un rhesymol, ac mae esiamplau eraill yn Ewrop sy’n dangos ei fod yn syniad da i gymryd camau ragofalus er mwyn atal lledaeniad pellach o’r feirws yng Nghymru.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter