Mae Adam Price wedi atsain siom Cyngor Sir Gar heddiw parthed yr Astudiaeth Ymarferoldeb am ddatblygiad Metro Cymoedd y Gorllewin a Bae Abertawe.
Comisynwyd yr Astudiaeth Ymarferoldeb o ganlyniad i gytundeb cyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2017, ond hyd at heddiw nid yw’r astudiaeth wedi ei gyhoeddi a’i rhoi o flaen y cyhoedd. Mae Cyngor Sir Gar wedi galw sawl gwaith i’r ddatblygiad yma gynnwys Dyffryn Amman a chymunedau eraill Sir Gar.
Cafodd y mater yma ei godi unwaith eto mewn cyfarfod Cyngor ar yr 8fed o Fehefin, yng nghyd-destun trafodaeth diweddar ar greu rheilffordd fodern, amgylcheddol-ystyriol yn ardal Dyffryn Amman.
Dywedodd Cyngh. Dai Jenkins (Glanaman): “Roeddem wrth ein bodd yn 2017 fod Plaid Cymru wedi sicrhau astudiaeth ymarferoldeb ar gyfer y Metro, a fod Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli o’r diwedd pwysigrwydd datblygu trafnidiaeth cyhoeddus yn Ne Orllewin Cymru.
Dywedodd Mr Price: “Rwy’n llawn deall rhwystredigaeth y Cyngor Sir, ac rwy’n rhannu eu siom ar y mater holl-bwysig yma. Gall ehangu opsiynau trafnidiaeth modern yn Sir Gar sicrhau lefelau uwch o symudedd cymdeithasol, annog lefelau uwch o ddefnydd o drafnidiaeth cyhoeddus, ac yn debygol o sicrhau llai o geir ar ein hewlydd.
Rwy’n deal fod yr argyfwng iechyd ddiweddar wedi ffurfio’r mwyafrif health o waith y llywodraeth, ond cytunwyd yr astudiaeth yma yn 2017. Rydw i ac fy nghyd-weithwyr yn y Senedd wedi bod yn gofyn yn y Siambr i’r astudiaeth yma cael ei gyhoeddi mor ddiweddar a Chwefror eleni, sydd yn hynod o rhwystredig.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter