Ganwyd Adam Price yng Nghaerfyrddin i deulu löwr a chafodd ei addysgu yn Ysgol Dyffryn Aman a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc yn Economeg.
Aeth Adam ymlaen i ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr o Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg y DU a Chyfarwyddwr Gweithredol o’r asiantaeth datblygu economaidd a newid diwylliannol Cymreig, Menter a Busnes.
Cafodd ei ethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2001 ac yn gyflym fe sefydlodd ei hun yn ymgyrchwr. Dadorchuddiodd y Mittal Affair yn 2002 lle bu’r meistr dur Lakshmi Mittal, cyfrannydd mawr i’r Blaid Lafur, yn lobio Tony Blair am gymorth i brynu diwydiant dur Rwmania.
Ac yntau’n wrthwynebydd barus o Ryfel Irac a rôl Tony Blair yng nghychwyniad y rhyfel, fe arweiniodd Adam ymgais ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a’r SNP i uchelgyhuddo Tony Blair. Cafodd Adam ei ddiarddel o siambr y Tŷ Cyffredin ar Fawrth 17eg 2005 am wrthod i ddad-ddweud ei ddatganiad yn cyhuddo Tony Blair o gamarwain y Senedd.
Dychwelodd i Dŷ’r Cyffredin ar Fai 5ed 2005 gyda mwyafrif uwch ac ar Hydref 31ain 2006 fe gychwynodd dadl tair awr ar archwiliad i Ryfel Irac ac o ganlyniad sefydlwyd yr Ymholiad Chilcot
Ymysg ei gyraeddiadau:
Cafodd Adam ei bleidleisio fel yr unig AS Cymreig i gadw cefnogaeth y cyhoedd ym mhleidlais ar-lein y Western Mail ynghylch costau ASau yn 2009; Yn 2007 cafodd ei enwi yn Gyfathrebwr BBC AM.PM y Flwyddyn; Ymgyrchwr Gwleidyddol y Flwyddyn 2005 yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.
Ochr yn ochr ag ymgyrchu dros archwiliadau am ran y Blaid Lafur a Tony Blair yng nghychwyniad Rhyfel Irac, roedd Adam Price yn aelod blaenllaw o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a galwodd am ddatganoli darlledu i Gymru er mwyn gwella tryloywder ac ansawdd.
Yn 2009, penderfynodd Adam Price AS i ymddiswyddo fel yr Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Gwobrwywyd ag Ysgoloriaeth Fulbright i astudio ym Mhrifysgol Harvard lle astudiodd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Fe ddaeth yn Gymrawd yn y Ganolfan ar gyfer Datblygu Rhyngwladol yn y John F. Kennedy School of Government ym Mhrifysgol Harvard.
Fel ymgyrchwr mae Adam wedi gwneud cyfraniadau cyson i’r Guardian, y Western Mail, y Spectator a Sianel Pedwar ar amrywiaeth o faterion. Yn 2014 enillodd Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd ar gyfer ei rhaglen ddogfen ar Streic y Glowyr 1984/85.
Cafodd Adam ei ethol yn Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn etholiad 2016 i'r Senedd.
Yna cafodd Adam Price AS ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru yn 2018 a parhaodd yn arweinydd tan 2023.